Saturday, 12 May 2012

COP/COPY: I Grwpiau Gwrthwynebu Melinau Gwynt; For Anti Windmill Groups



Gweler y rhaglen atodol (yn Gymraeg a Saesneg) ar gyfer nifer o weithgareddau sydd i gymryd lle ar Fynydd y Betws, uwchben Rhydaman ar benwythnos yr 8fed - 10fed o Fehefin eleni.  Dyma wahoddiad swyddogol i’ch Grŵp i ddewis Siaradwr i’ch cynrychioli  fel grŵp yn “Rali Meddiannu’r Mynyddoedd’ Bydd y rali yma’n cymryd lle rhwng 2 - 3 o’r gloch yn y prynhawn ger y ‘pwynt trig’ ar Fynydd y Betws a Llwyfan fydd yr achlysur yma’n  bennaf ar gyfer ‘Ymgyrchwyr Gwrth - Melinau Gwynt’ felly,  rydym yn gobeithio’n fawr iawn wnewch dderbyn y gwahoddiad i ddewis Siaradwr i gymryd rhan.

Gobeithiem yn ogystal, y gwnewch ledaenu’r wybodaeth parthed y rhaglen o ddigwyddiadau i’ch aelodaeth a chefnogwyr ac y gwnewch eich gorau glas i’w perswadio i ddod i Fynydd y Betws yn ystod y penwythnos dan sylw - i wersylla ac i  gerdded y darn prydferth yma o’u hetifeddiaeth tir lluniol cyn iddi fynd yn rhy hwyr i wneud hynny ac, wrth gwrs, i fynychu a chymryd rhan yn y digwyddiadau fydd yn cymryd lle ar y Sadwrn. Mae gwir angen digonedd o sŵn ar gyfer yr ‘Orymdaith i’r Baricêd’ felly, os oes gennych offeryn, o unrhyw fath sy’n swnllyd, dewch a fo gyda chi ond does dim rheidrwydd ar neb i ddod i’r bariced symbolaidd a chymryd rhan, dewis yr unigolyn fydd hynny.

Gan fod amser wastad yn elyn wrth drefnu gweithgareddau o’r math yma, byddwn yn hynod o ddiolchgar petaech yn gallu ymateb i’r gwahoddiad cyn gynted a phosib er mwyn i ni allu cwblhau’r rhaglen. Diolch yn Fawr.

Yn ddiffuant

Sian Ifan.

____________________________________________________________

Please see the attached provisional programme (in Welsh and English) for a number of events that are to take place on Mynydd y Betws (above Rhydamam) on the weekend of the 8 – 10th June this year. We would like to now officially invite you to select a speaker from your Anti Windmill Group to come and speak at the temporary 'Remember Stryveland Struggle 1282 - 1334' Memorial staged at the 'Trig' on Mynydd y Betws. This rally will be take place between 2 - 3:00pm and will  provide a platform, in the main for speakers representing Anti - Windmill Campaigns/Groups and Societies who are opposed to the Windmills of Mass Destruction devastating our heritage in the landscape.

 This will be a non polical platform and speeches will be confined to such that oppose the Tan 8 Terror. It will provide an opportunity for each group to inform on their local campaigns and winning support for such; so, we do hope that you will accept this invitation.

We also hope that you will inform your members and supporters of the event and actively encourage them to come to Mynydd y Betws on the dates given to camp and walk and to get to know this beautiful area of their ancestral landscape - before it gets too late to do so and, of course, to attend the events taking place on Saturday the 9th. We need plenty of ‘noise’ for the ‘March to the Barricade’ so, if you have any instrument – the noisier the better…bring it.

Note. It is entirely up to the individual if they wish, or not, to participate in the symbolic barricade.

As time is always the enemy in organising such events, I would appreciate it very much if you could reply to this invitation asap so that we can finalise the programme. Diolch yn fawr.

Thanking you sincerely

Siân Ifan

Ar ran/On behalf of the ‘Cymrwch y Tir yn ôl Initiative’

Mwy o wybodaeth ar/More Info on the Cymru’n Codi blog