Thursday 10 May 2012

MYNYDD Y BETWS - STRYVELAND 2012: BRWYDRAU CYMRYD Y TIR YN ÔL! / ‘CYMRWCH Y TIR YN ÔL CAMPAIGN’



  ‘CYMRWCH Y TIR YN ÔL CAMPAIGN’

Gan fod ein cenedl yn prysur gael ei rheibio unwaith eto, y tro yma gan Feistri Melinau Gwynt cyfalafol ysglyfaethus, mae’r blog ‘Cymru’n Codi’, fel rhan o’r ymgyrch ‘Cymryd Ein Tir Yn Ôl’, wrthi’n hyrwyddo gweithgaredd o’r enw ‘Gorymdeithio i’r Mynyddoedd’ sydd i gymryd lle yn ystod wythnos gyntaf (1 - 7) mis Mehefin eleni. Anogir unigolion a theuluoedd mewn cymunedau drwy Gymru benbaladr i gerdded a gwersylla yn y mynyddoedd ar diroedd sydd wedi eu meddiannu gan Coron Lloegr, a barwniaid rheibus eraill, yn ogystal ag ar diroedd a adnabyddir fel Tiroedd Comin. Pam? Oherwydd bwriedir gosod cannoedd o’r melinau gwynt mwyaf a dianghenraid a’r tiroedd o’r math yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, a  bwriedir i’r gweithgareddau a anogir fel ‘gweithgareddau cymunedol ar gyfer wythnos gyntaf mis Mehefin fod yn lansiad ar gyfer ‘Ymgyrch Cenedlaethol’ i ‘Gymryd y Tir yn ôl’.

Dilynir y gweithgareddau cymunedol yma gydag achlysur cenedlaethol sef “Meddiannu’r Mynyddoedd” a fydd yn cymryd lle ar Fynydd y Betws, Sir Gaerfyrddin rhwng yr 8fed a’r 10fed o Fehefin. Eto, gellir gwersylla a dod i adnabod y mynydd (cyn i’r Barwniaid Melinau Gwynt rheibus osod eu melinau ar y tir treftadol holl bwysig yma.  Maent wedi cychwyn ar y gwaith yn barod!)

Ar wahân i’r cyfle i gerdded a gwersylla, cynhelir y prif weithgareddau ar ddydd Sadwrn y 9fed o Fehefin lle cynhelir dau weithgaredd gwahanol yn ystod y dydd - fel a ganlyn:

*2 -3pm. Ymgynulliad ‘anwleidyddol’ ger y ‘pwynt trig’ ar Fynydd y Betws (mae’n eithaf agos i’r ffordd) Platform fydd yr achlysur yma ar gyfer ‘Ymgyrchwyr Gwrth - Melinau Gwynt’ yn bennaf ac fe estynnir gwahoddiad drwy’r ddogfen yma nawr, ac yn y fan a’r lle, i bob un ‘Grŵp Gwrth Melinau Gwynt’ drwy Gymru benbaladr, i  ddewis cynrychiolydd i siarad ar eu rhan yn yr Ymgynulliad yma ar Fynydd y Betws. Mae croeso i unrhyw grŵp sydd am enwebu cynrychiolydd,  gysylltu â fi ar : 01792 533806 neu s.ifan@ntlworld.com <mailto:s.ifan@ntlworld.com>

Wedi’r areithiau ger y ‘pwynt trig, cerddir heibio ffensys ffin ogleddol Gweithle’r Fferm Wynt nes cyrraedd y groesffordd wrth droed Penlle’r Gaer. Bydd ‘Croes Ysbryd Cofiwn’ wedi ei gosod yma’n flaen llaw, a gellir gosod teyrngedau o flodau ger y groes er cof am y Cymry a frwydrodd hyd angau wrth amddiffyn Mynydd y Betws neu, ‘Stryveland’ fel bu i’r mynydd gael ei enwi yn y cyfnod 1282 - 1334.

Yn ogystal - ac ar yr un pryd:

2-3pm. Cynhelir Rali Gwleidyddol - Gwladgarol “Rali Achub Stryveland’ ar y groesffordd wrth droed Penlle’r Gaer. Rali ‘bocs sebon’ fydd hon gyda’r cyfle i unrhyw wladgarwr godi ar ei draed i ‘ddweud ei ddweud’.  Dilynir yr areithiau yma gyda gorymdaith i ddilyniant ‘miwsig bras’ i fynedfa Gweithle’r Melinau Gwynt ar gyfer cynnal ‘Baricêd y Betws’. Dewch ac unrhyw offeryn sydd yn eich meddiant…drwm, cyrn gwlad, pibellau, ffliwt neu, dim ond eich llais hyd yn oed, i gyfrannu i’r ‘miwsig bras’ wrth orymdeithio i’r baricêd.

Gweithred symbolaidd fydd y baricêd ac yma ceir areithiau ffurfiol gan gynrychiolwyr rhai o’r Cymdeithasau a Mudiadau Gwladgarol fydd yno’n cymryd rhan.

Os am siarad yn ystod y gweithgaredd yma, cysylltwch â Gethin ap Iestyn Gruffydd yn: gethin.apgruffydd@ntlworld.com <mailto:gethin.apgruffydd@ntlworld.com>

Dilynir ‘Baricêd y Betws’ â gorymdaith fer o gwmpas ffensys deheuol y Gweithle ac i safle ‘pwynt y trig’.
  
Gyda’r nos. Gobeithir cynnal ‘Noson Gymdeithasol’. Manylion llawn am hyn maes o law, ond yn y cyfamser, os oes yna gerddorion, cantorion a beirdd gwladgarol am gyfrannu eu doniau i’r noson, yn rhad ac am ddim - fel ac arferid ei wneud yn naturiol ac yn rheolaidd yn ein cymunedau Cymreig yn yr hen ddyddiau, cysylltwch â ni i gynnig eich gwasanaeth. Diolch yn fawr.
  
*Ynglŷn â’r Rhaglen Uchod>  Gosodir ffilm fer yn dangos yn union ble mae’r safleoedd a nodir uchod - a sut i’w cyrraedd ar y blog ‘Cymru’n Codi’ yn ogystal ag ar ‘facebook’ cyn bo hir. Gwyliwch y gwagle!

Dewch a rubanau du ynghyd â chroesau wedi eu gwneud o bren ac wedi eu peintio’n goch a melyn i osod ar y ffensys - er cof am y Cymry a frwydrodd hyd angau ar Fynydd y Betws wrth iddynt wrthsefyll gorthrwm yr Eingl - Normaniaid yn eu herbyn wedi 1282 wrth iddyn nhw fynd ati i feddiannu’r tir. Ond, fe frwydrodd y Cymry’n ôl yn erbyn pob caledi ac anhawster ac “enillwyd y tir yn ôl” gyda dymchwel castell Pentre’r Gaer yn 1334!

 ‘CYMRWCH Y TIR YN ÔL CAMPAIGN’
  
‘Cymru'n Codi 2012’ has proposed a 'March Into The Mountain Initiative' for the first week of June 1 - 7, this will followed by a National 'Occupy The Mountains' event on Mynydd y Betws over 8 - 10 June with main events taking place on Saturday 9th June as part of a continuing campaign to 'Save Stryveland' from another 'Great Beast*'. This time the 'New Conquistadores' aka 'Renewables Robber Barons' seeking to make of our Country 'CORPORATE COLONY CYMRU'. The Events of Saturday 9th June 2012 will, in the main, take the form of two separate gatherings, this being so,to meet a number of requests made - which organisers are happy to comply with for the purpose of overall maximum unity and solidarity in struggle.Thus, there will be as follows:

* 2 - 3:00pm. A Non - Political gathering at the Mynydd y Betws 'Trig' to provide a platform for Anti - Windmill Campaigners; All Anti – Windmill groups based in Cymru are invited to appoint a representative to speak at this public gathering, please contact myself if wishing to do so. The Gathering will be followed by a walk to the Northern Fences of the Windmill Plantation (which will be crossed via a 'Red Gate' provided) continuing on to the foot of Penlle’r Gaer where floral tributes may be placed at the pre placed ‘Ysbryd Cofiwn 'Remembrance Cross' in memory of all the Cymry who fought and died in defence of Mynydd y Betws aka 'Stryveland' 1282 - 1334.

2 - 3:00pm. A second but Political Platform - Patriotic Gathering will be organised as the 'Save Stryveland' Rally at foot of Penlle'r Gaer, at which the above aforementioned 'Remembrance Cross' will be raised, and a 'Soap Box Nation' will make it possible for any and all Patriots to 'Vent a Mythology' as in Medieval times, being as patriotically and politically radical as they wish. Such will be followed by a 'Rough Music' march to the main entrance of the Windmill Workings on Mynydd y Betws for the 'Betws Barricade', a symbolic event at which more formal speeches will be made by representatives of Patriotic Societies attending, if wishing to speak at this event contact Gethin Gruffydd at gethin.apgruffydd@ntlworld.comThe 'Betws Barricade' will be followed by a walk along the Southern Fences, passing through a 'red gate' and proceeding to the 'Trig' on Mynydd y Betws.

Re above programme.

A film of meeting venues mentioned above along with possible camping places on the mountain will be posted on to the ‘Cymru’n Codi’ blog and facebook in due course along with THE final programme.

NB: All attending the above events may begin to arrive at the Mynydd y Betws Viewing Station as soon as they wish but noting, that as from 1:30pm, attendees should make their way to the gathering/platform places for their 2 - 3:00pm events. Possibly all will be returning to the viewing station between 5 - 6:00pm. Organisers have requested that those patriotic musicians, singers and poets who would like to contribute to a Mountain GwerinOwain Free Festival' could do so at the Viewing Station prior to the later Afternoon events and activities and a more formal 'Social' (hopefully) will beorganised for the evening.  Venue and full details re Evening Social will be confirmed at a later date. In the meantime, Anyone up to contributing music wise, do contact Siân Ifan at s.ifan@ntlworld.com

PS:

Bring Black Ribbons and bunches of Ivy and small Red & Yellow Crosses made of wood or cardboard to hang on the fences in memory of Y Cymry who fought and died on Mynydd y Betws resisting Anglo - Norman aggression pitted against them post 1282 in order to drive them off this, their land, which became free again in 1334 with the destruction of the castle of Penlle'r Gaer.

Yn Ffyddlon.

Gethin ap 'Iestyn' Gruffydd