Friday 11 May 2012

COPI/COPY: Ar gyfer Mudiadau/Cymdeithasau/Grwpiau Gwlatgarol.



Gweler y rhaglen atodol (yn Gymraeg a Saesneg) ar gyfer nifer o weithgareddau sydd i gymryd lle ar Fynydd y Betws, uwchben Rhydaman ar benwythnos yr 8fed - 10fed o Fehefin eleni. Hoffem eich gwahodd fel Mudiad/Cymdeithas neu grŵp i ddewis Siaradwr i gynrychioli eich Mudiad/Cymdeithas/Grŵp yn “Rali Achub Stryveland’ ar y groesffordd wrth droed Penlle’r Gaer ar Fynydd y Betws. Bydd y rali yma’n cymryd lle rhwng 2 - 3 o’r gloch yn y prynhawn a rali ‘bocs sebon’ fydd hi ar y cyfan, gyda’r cyfle i unrhyw wladgarwr godi ar ei draed i ‘ddweud ei ddweud’.

Dilynir yr areithiau yma gyda gorymdaith i ddilyniant ‘miwsig bras’ i fynedfa Gweithle’r Melinau Gwynt ar gyfer cynnal ‘Baricêd y Betws’. Dewch ac unrhyw offeryn sydd yn eich meddiant…drwm, cyrn gwlad, pibellau, ffliwt neu, dim ond eich llais hyd yn oed, i gyfrannu i’r ‘miwsig bras’ wrth orymdeithio i’r baricêd.

Gweithred symbolaidd fydd y baricêd ac yma ceir areithiau ffurfiol gan gynrychiolwyr rhai o’r Cymdeithasau a Mudiadau Gwladgarol fydd yno’n cymryd rhan. Dyma le fydd y Prif Siaradwyr (fel eich cynrychiolydd chi) yn siarad.ac rydym yn gobeithio’n fawr iawn wnewch dderbyn y gwahoddiad i ddewis Siaradwr i gymryd rhan.

Gobeithiem yn ogystal, y gwnewch ledaenu’r wybodaeth parthed y rhaglen o ddigwyddiadau i’ch aelodaeth a chefnogwyr ac y gwnewch eich gorau glas i’w perswadio i ddod i Fynydd y Betws yn ystod y penwythnos dan sylw - i wersylla ac i  gerdded y darn prydferth yma o’u hetifeddiaeth tir lluniol cyn iddi fynd yn rhy hwyr i wneud hynny ac, wrth gwrs, i fynychu a chymryd rhan yn y digwyddiadau fydd yn cymryd lle ar y Sadwrn. Mae gwir angen digonedd o sŵn ar gyfer yr ‘Orymdaith i’r Baricêd’ felly, os oes gennych offeryn, o unrhyw fath sy’n swnllyd, dewch a fo gyd chi.

Gan fod amser wastad yn elyn wrth drefnu gweithgareddau o’r math yma, byddwn yn hynod o ddiolchgar petaech yn gallu ymateb i’r gwahoddiad cyn gynted a phosib er mwyn i ni allu cwblhau’r rhaglen. Diolch yn Fawr.

Yn ddiffuant

Sian Ifan.

Please see the attached provisional programme (in Welsh and English) for a number of events that are to take place on Mynydd y Betws (above Rhydamam) on the weekend of the 8 – 10th June this year. We would like to invite you to select a speaker from your Movement/Society/Group to come and speak, on your Movement/Society/Group’s behalf, at the 'Save Stryveland' Rally which is to be held at the foot of Penlle'r Gaer, on Mynydd y Betws. This rally will be take place between 2 - 3:00pm and will provide a a 'Soap Box Nation' platform which will make it possible for any and all Patriots to 'Vent a Mythology' as in Medieval times, being as patriotically and politically radical as they wish. Such will be followed by a 'Rough Music' march to the main entrance of the Windmill Workings on Mynydd y Betws for the 'Betws Barricade', a symbolic event at which more formal speeches will be made by representatives of Patriotic Societies attending. This is where your chosen speaker will speak so, we do hope that you will accept this invitation.

We also hope that you will inform your members and supporters of the event and actively encourage them to come to Mynydd y Betws on the dates given to camp and walk and to get to know this beautiful area of their ancestral landscape - before it gets too late to do so and, of course, to attend the events taking place on Saturday the 9th. We need plenty of ‘noise’ for the ‘March to the Barricade’ so, if you have any instrument – the noisier the better…bring it.

As time is always the enemy in organising such events, I would appreciate it very much if you could reply to this invitation asap so that we can finalise the programme. Diolch yn fawr.

Thanking you sincerely

Siân Ifan

Ar ran/On behalf of the ‘Cymrwch y Tir yn ôl Initiative’

Mwy o wybodaeth ar/More Info on the Cymru’n Codi blog